The project aimed to connect and protect a 200-hectare (ha) wildlife habitat corridor – an area equivalent to almost 500 international football pitches. Over 140ha of this land is the internationally important wildlife habitat of the North West Pembrokeshire Commons Special Area of Conservation (SAC), while 60 hectares is private farmland at Lower Harglodd, the Gwryd and Penweathers (together known as ‘The Bug Farm’) and Llanunwas.
We aimed to address as many of the threats to the habitat as possible within the course of a year and a half – it was a busy time!
This project is funded by the Nature Networks Programme. It is being delivered by the Heritage Fund, on behalf of the Welsh Government. The fund aims to strengthen the resilience of Wales’ network of protected land and marine sites, supporting a green recovery for nature and communities. Project partners are: Dr Beynon’s Bug Farm, the Pembrokeshire Nature Partnership, Rob Davies (Llanunwas/HabitatInfo), the National Trust, the Pembrokeshire Coast National Park Authority and the Wildlife Trust of South and West Wales.
The follow-on project is called ‘A Connected Peninsula’ and involves bringing other private landowners on-board to fully join up wildlife habitat across the St Davids peninsula. The project also involves building the Nature Recovery Centre at The Bug Farm and applying for a licence to reintroduce the marsh fritillary butterfly to the peninsula.
Trosolwg
Rhwng 2021 a 2023, fe wnaethom gynnal prosiect adfer natur o’r enw ‘Cysylltiadau Cyffredin’ a hynny fel rhan o gynllun hirdymor i gysylltu cynefinoedd bywyd gwyllt ar draws penrhyn Tyddewi a throi The Bug Farm yn warchodfa natur. Bwriad y prosiect oedd cysylltu a diogelu coridor cynefin bywyd gwyllt 200 hectar (ha) – ardal sy’n cyfateb i bron i 500 o gaeau pêl-droed rhyngwladol. Mae dros 140ha o’r tir hwn yn gynefin bywyd gwyllt o bwysigrwydd rhyngwladol yn Ardalaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) Comins Gogledd Orllewin Sir Benfro, tra bod 60 hectar yn dir fferm preifat yn Harglodd Isaf, y Gwryd a Penweathers (a elwir gyda’i gilydd yn ‘Bug Farm’) a Llanunwas.
O fewn blwyddyn a hanner, anelwyd at fynd i’r afael â chymaint o’r bygythiadau i’r cynefin â phosibl – roedd yn gyfnod prysur!
Ariennir y prosiect hwn gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur. Caiff ei ddarparu gan y Gronfa Dreftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru. Nod y gronfa yw cryfhau cydnerthedd rhwydwaith Cymru o safleoedd tir a morol gwarchodedig, gan gefnogi adferiad gwyrdd i natur a chymunedau.
Y partneriaid prosiect yw: Dr Beynon’s Bug Farm, Partneriaeth Natur Sir Benfro, Rob Davies (Llanunwas/HabitatInfo), yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru.
Enw’r prosiect dilynol yw ‘Penrhyn Cysylltiedig’ ac mae’n cynnwys dod â thirfeddianwyr preifat eraill at ei gilydd i gydgysylltu cynefinoedd bywyd gwyllt yn llawn ar draws penrhyn Tyddewi. Mae’r prosiect hefyd yn cynnwys adeiladu’r Ganolfan Adfer Natur yn The Bug Farm a gwneud cais am drwydded i ailgyflwyno iâr fach yr haf britheg y gors i’r penrhyn.